Croeso i digiDo!
Daeth prosiect digiDo i ben ar 31 Mai 2015. Cafodd y prosiect ei ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a chafodd ei reoli gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Cynigodd y prosiect gyfle unigryw i unigolion a busnesau oedd wedi eu lleoli o fewn ardaloedd cydgyfeirio Cymru, i ddefnyddio cynnwys digidol o gasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol yn fasnachol, yn rhad ac am ddim. Mae croeso i chi bori’r wefan hon i ddarganfod sampl o’r cynnyrch a grëwyd gan fusnesau arloesol yng Nghymru, drwy brosiect digiDo.
Mae amrywiaeth eang o ddeunydd ar gael i chi ei ddefnyddio yn y Llyfrgell Genedlaethol; o ffotograffau a llawysgrifau, i fapiau, darluniau a phapurau newydd. Ewch i’n tudalen Chwilio’r Casgliadau i ddechrau chwilota trwy’r cyfoeth hwn o ddeunydd.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn parhau i gynnig gwasanaeth i ddarparu delweddau digidol ar gais, ond ar ôl mis Mai 2015, bydd ffi yn cael ei godi ar bob cais masnachol.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar:
gofyn@llgc.org.uk
01970 632 933