Chwilio’r Casgliadau
Mae yna sawl ffordd y gellir mynd ati i chwilio a phori drwy gasgliadau digidol y Llyfrgell Genedlaethol; sef:
- Porwr delweddau digiDo
Mae porwr digiDo yn cynnwys holl gynnwys digidol Llyfrgell Genedlaethol Cymru sydd un ai:
– Allan o hawlfraint NEU
– Llyfrgell Genedlaethol Cymru sydd berchen ar yr hawlfraint
Ar hyn o bryd mae’r wefan yn gynnwys dros 20,000 o eitemau.
Mae’r porwr hwn wedi ei greu i’r rhai sy’n chwilio am gynnwys i’w ddefnyddio’n fasnachol. Felly, nid oes cynnwys allai fod a chyfyngiadau hawlfraint yma. Y prif bwrpas y wefan oedd i cynnig eitemau sy’n rhydd i’w defnyddio i greu cynnyrch newydd.
Ffyrdd eraill o chwilio am gynnwys:
- Trwy brif gatalog y Llyfrgell:
- Flickr Commons Llyfrgell Genedlaethol Cymru
https://www.flickr.com/photos/llgc/
Trwy’r dudalen Flickr Commons gellir gweld ffotograffau heb unrhyw faterion hawlfraint sy’n hysbys i ni.
- Papurau Newydd Cymru Ar-lein
http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/home
Mae Papurau Newydd Cymru Ar-lein yn adnodd *NEWYDD* gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru sydd yn eich galluogi i bori a chwilio dros 100 o deitlau o’i chasgliad cyfoethog o bapurau newydd cyn 1910.
Nid yn unig gallwch bori a darllen copïau digidol y dudalen wreiddiol ond hefyd, gellir chwilio am eiriau, enwau a dyddiadau ar draws 1 miliwn o dudalennau.
Darganfyddwch 2.5 miliwn o erthyglau a 250,000 o dudalennau . . . ac maen tyfu o hyd.