1,000,000 o dudalennau o hanes Cymru hyd 1910 ar-lein, am ddim.
http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk
Mae Papurau Newydd Cymru Ar-lein yn adnodd sy’n galluogi unrhyw un sy’n ymddiddori yn hanes a phobl Cymru i bori a chwilio 100 a mwy o deitlau o’i chasgliad cyfoethog o bapurau newydd cyn 1910 – a hynny yn rhad ac am ddim. Y cynllun hwn yw’r prosiect digido mwyaf i’r Llyfrgell i ymgymryd ag ef ac mae mwy o deitlau’n cael eu hychwanegu’n gyson. Mae’r wefan hon yn galluogi’r ychwiliydd i bori a darllen copïau digidol o’r dudalen wreiddiol ond hefyd i chwilio am eiriau, enwau a dyddiadau ar draws un miliwn o dudalenau i gyd ar yr un pryd.
Ariannwyd y cynllun hwn trwy gymorth y Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.