Beth oedd Prosiect DigiDo?
Roedd prosiect digido i fusnes yn cael ei redeg gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru er mwyn cefnogi busnesau creadigol bach a chanolig o fewn ardaloedd cydgyfeiriant Cymru. Ers dros ddeng mlynedd bellach, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi bod yn rhedeg nifer helaeth o brosiectau digido. Adnabyddir y Llyfrgell fel canolfan sgiliau digido gyda’r gorau o’i math yn Ewrop.
Pwrpas digido i’r Llyfrgell yw cynnig mynediad i’w chasgliadau helaeth. Nod y prosiect oedd hybu busnesau arloesol Cymru i allu cystadlu yn lleol ac yn fyd-eang. Roedd y prosiect hyn yn cynnig cyfle i fusnesau fanteisio ac ail-ddefnyddio ystorfa enfawr o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, un o lyfrgelloedd mawr y byd.
Beth sydd mor arbennig am y prosiect hwn?
Mae deunydd newydd yn cael ei ddigido bob dydd ac roedd copïau o ansawdd uchel ar gael am ddim i fusnesau eu defnyddio yn fasnachol. Bwriad y Prosiect Digido oedd hybu busnesau creadigol yng Nghymru i weld potensial a chyfoeth gwahanol gasgliadau hanesyddol. Yn ychwanegol, roedd y prosiect hwn yn agor y drws i fusnesau fanteisio ar gymorth ac arbenigedd staff y Llyfrgell. Mi fuodd busnesau yn derbyn cymorth ar ystod eang o faterion gan gynnwys hawlfraint a thrwyddedu, TGaCh, cipio digidol, storio digidol a chadwraeth hyd at gymorth ar sut i chwilio’r adnoddau presennol.
Wedi eu digido yn barod mae:
• Llawysgrifau;
• Archifau;
• Deunydd Print;
• Darluniau;
• Mapiau;
• Ffotograffau.
Sut oedd y prosiect yn cael ei ariannu?
Roedd proseict pedair mlynedd hwn yn cael ei gefnogi gan Gronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) trwy Llywodraeth Cymru, ynghyd ag adnoddau o’r Llyfrgell. Ni fyddai wedi bod yn bosib i ni gynnig y gwasanaeth hwn i fusnesau heb help a chymorth ariannol Cronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewrop.