Hawlfraint a chasgliadau’r Llyfrgell
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cydnabod a pharchu hawlfreintiau sy’n bodoli yn y casgliadau dan ei gofal. Mae’r cynnwys sydd ar gael at ddefnydd masnachol drwy’r project digiDo wedi’i reoli mewn modd sy’n sicrhau bod y busnesau yn ymwybodol o’u statws hawliau cyn ei ddefnyddio.Bydd cynnwys digidol yn perthyn i un o dri chategori:
- Parth Cyhoeddus (h.y. allan o hawlfraint)
- Statws hawlfraint anhysbys
- Dan hawlfraint
Pa bynnag gategori y bydd eitem neu gasgliad yn perthyn iddi, gallai’r Llyfrgell gynorthwyo eich busnes. Gallwn rannu ein gwybodaeth a phrofiad o reoli hawliau neu efallai eich rhoi mewn cysylltiad â’r deiliad hawlfraint perthnasol fel y gallwch drafod datblygiad eich cynnyrch neu wasanaeth arfaethedig gyda hwy.
Trwyddedu cynnwys digidol
Roedd digiDo yn galluogi busnesau sy’n gymwys i elwa o’r project i wneud defnydd masnachol o gynnwys digidol yn rhad ac am ddim. Os oedd y busnes yn ateb gofynion y project, bydd y ffioedd hawliau arferol sy’n cael eu codi gan y Llyfrgell yn cael eu hepgor.
Er mwyn elwa o’r cyfle hwn, roedd angen i chi:
- ateb gofynion y project ar gyfer MBGs
- mynychu un o’r sesiynau cyflwyno a gynhelir gan y Llyfrgell
- adnabod pa gynnwys yr hoffech ei ddefnyddio a disgrifio sut yr ydych yn bwriadu gwneud defnydd ohono.
Asesir pob cais yn unigol yn erbyn nodau ac amcanion y project.