Mi fuodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt yn ymweld a digiDo yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth ganol fis Mai er mwyn dysgu mwy am y prosiect sy’n cael ei ariannu trwy’r Gronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop. Mae digiDo yn cynnig cyfle i fusnesau creadigol yng Nghymru ddatblygu gwasanaeth neu gynnyrch newydd trwy ddefnydd o gasgliadau cyfoethog y Llyfrgell. Mae hyn yn cynnwys dros 3.8 miliwn o eitemau digidol o dudalennau papurau newydd a chylchgronau, i lawysgrifau ac archifau hyd at ddarluniau a ffotograffau.
Mae Menna Lloyd, dylunydd gemwaith o Rhondda Cynon Taf eisoes wedi manteisio ar ddefnydd o’r prosiect ac mae hi ar hyn o bryd yn cael mynediad i’r casgliadau digidol er mwyn datblygu casgliad o emwaith sydd wedi’u hysbrydoli gan eitemau o’r Aifft.
“Dwi wrth fy modd ar gael cynnig y cyfle i fanteisio ar brosiect digiDo Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r prosiect yn cynnig cyfoeth enfawr o adnoddau gwerthfawr i mi allu integreiddio i mewn i fy ngwaith. Trwy ddefnyddio techneg ddylunio arbenigol mae modd i mi ddod a llawysgrifau ac archifau hynafol yn fyw trwy fy nghasgliad gemwaith newydd. Rwy’n bwriadu troi ein treftadaeth Gymreig yn gelf gwisgadwy ar gyfer y dyfodol.”
Yn ystod ei hymweliad, roedd modd i Jane Hutt weld cynifer o eitemau cyfoethog sydd wedi ymgartrefu yma a’r ffordd gallai busnesau creadigol ennill ysbrydoliaeth trwy rhain.
Dywedodd Jane Hutt, “Mewn cyfnod lle mae pwysau mawr ar bwrs cyhoeddus y wlad, dwi’n falch o weld llwyddiant prosiectau sydd wedi cael cefnogaeth gan adnoddau’r UE sy’n cyfrannu tuag at targedau Rhaglen y Llywodraeth i hybu busnesau cystadleuol yng Nghymru. Bydd rhoi cymorth i fusnesau Cymru i fanteisio ar gyfleoedd i arloesi a defnyddio technoleg newydd yn sicrhau llwyddiant masnachol a hybu twf o fewn economi Cymru”.
Os oes unrhyw un yn dymuno dysgu mwy am gasgliadau digidol Llyfrgell Genedlaethol Cymru, byddai mynychu digwyddiad ‘Cyflwyno’r Casgliadau Digidol’ ar y 16 o Orffennaf yn fuddiol. Barn Myrddin ap Dafydd, Gwasg Carreg Gwalch yw, “Roedd y digwyddiad hwn yn agoriad llygad i’r cyfoeth o eitemau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Byddaf yn awgrymu digiDo i olygyddion eraill.” Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad yma.