Ewch i catalog digiDo Llyfrgell Genedlaethol Cymru lle ceir ffotograffau yn eu cannoedd. Mae modd i chi bori trwy’r tudalennau’n un llif lluniau, neu dethol setiau unigol; megis digwyddiadau penodol neu themâu.
Cewch yma hyd i ddetholiad o ffotograffau gan amrywiol ffotograffwyr, megis Geoff Charles (1909-2002), John Thomas (1838-1905) a P.B. Abery (1877-1948).
Casgliad ffotograffig Geoff Charles yw’r casgliad unigol mwyaf yn y Llyfrgell, ac mae ei gyfraniad i ffotograffiaeth Cymru yn unigryw. Llwyddodd i ddal bron i bob agwedd o fywyd yng Nghymru o’r 1930au hyd at yr 1970au.
John Thomas oedd un o’r ffotograffwyr Cymreig mwyaf adnabyddus o oes Victoria. Teithiodd ledled Cymru gan dynnu lluniau o bobl gyffredin; yn eu man gwaith gan amlaf, yn ogystal â golygfeydd yn dangos bywyd yn nhrefi a phentrefi Cymru o’r 1860au hyd yr 1890au.
Tynnodd P. B. Abery luniau o olygfeydd a bywyd gwledig Sir Frycheiniog, Sir Faesyfed a Gororau Lloegr. Pan gychwynnodd y Birmingham Water Works ar waith adeiladu’r argae yng Nghwm Elan, fe’i penodwyd yn ffotograffydd swyddogol y cynllun.
Mae modd hefyd pori trwy’r amrywiol themâu; o’r Abatai, Cestyll a Phalasau i Afonydd, Mynyddoedd, Tirweddau a Bywyd Cymdeithasol.